Y Datganiad

Rydym ni, y danysgrified, yn gwrthod pasbortau’r brechlyn, neu unrhyw fath tebyg o ardystio meddygol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn eich gwahodd i ychwanegu eich llais at ein llais ni gan arwyddo’r llythyr agored hwn.

Rydym yn cynrychioli dros 200 o fudiadau, grwpiau busnes, ymgyrchwyr a phobl broffesiynol sydd wedi dod at ein gilydd oherwydd ein pryder dros gyflwyniad pasbortau’r brechlyn a lle gallai hyn arwain.

Yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi mwynhau ein hawliau ac ein rhyddid. Ymladdodd ein hynafiaid dros ein rhyddid. Mae’r hawliau hyn nid yn unig yn sylfaenol i’n dealltwriaeth o ddemocratiaeth, ond hefyd maent yn hawliau dylai pob bod dynol meddu.

Mae rhai ohonom yn ddigon lwcus i gael ein geni gyda hawliau. Mae eraill wedi cael profiad o enbydrwydd arwahanu, ataliad a gwyliadwriaeth.

Er hynny, o dan fygwth pasbortau’r brechlyn, a gydag adnabyddiaeth ddigidol dan ystyriaeth, mae ein hawliau mewn perygl difrifol.

Rydyn ni wedi gwneud aberth anhygoel yn ystod argyfwng covid 19. Beth ddechreuodd gyda thair wythnos i wastadi’r gromlin, trodd mewn i fisoedd o arwahanrwydd gyda miloedd yn colli allan ar driniaeth feddygol, plant yn colli addysg, busnesau a bywiogrwydd wedi eu difetha, teuluoedd yn methu ymweld â’u hanwyliaid oedrannus, priodasau, angladdau, digwyddiadau cymdeithasol wedi eu cyfyngu neu ganslo.

Y golau ar ddiwedd y twnnel -15 miliwn o frechlynnau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, wedi ei diffodd. Symudai’r pyst gôl o hyd. Pan gyrhaeddodd ‘diwrnod ryddid’, death y cyhoeddiad, pasbortau’r brechlyn! Llithrodd i fwrdd pob gobaith o ddychwelyd i’r arfer.

Fel bodau dynol, yr ydym yn chwilio am ddiogelwch uwchben popeth arall, ar gyfer ein hunain, ac ein hanwyliaid. Weithiau, gall rheolau ein helpu ni i deimlo’n ddiogel.

Ond gwyddom hefyd bod bywyd yn ymwneud â chydbwysedd a rhaid dal ein hunain rhag mynd yn rhy bell pam rydyn yn ymateb allan o ofn.

Byddai gorchmynion i ddangos ardystiad meddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus, y tafarn, y theatr, ysgolion, prifysgolion neu unrhyw le arall, yn dyfnhau’r risg o anghydraddoldebau sydd gyda ni yn barod o fewn cymdeithas.

Heddiw, pasbort y brechlyn i gael mynediad i’r tafarn, ond beth allai fod yfory?

Gallwn weld yn barod, arwahanu, ataliad, gwyliadwriaeth, teuluoedd yn methu bwyta gyda’i gilydd. Myfyrwyr yn cael eu gwahardd o brifysgolion, gwahardd o gymdeithasu a gwrthod mynediad i ofal iechyd yn y gwledydd sydd wedi cyflwyno mesuriadau llym.

Yr ydym am gael cymdeithas agored, rydd a theg. Yr ydym eisiau hyn ar gyfer ein hunain, ein hanwyliaid a’n ffrindiau. Yr ydym eisiau bwyta, gweithio, dawnsio a gweddïo gyda’n gilydd. Yr ydym eisiau ein plant i chwarae, dysgu a thyfu gada’i gilydd.

Dyma’r foment lle mae’n rhaid i ni gydnabod, rydyn yn mynd rhy bell gan ofyn am ardystiad meddygol i fyw bywyd pob dydd.

Nawr yw’r amser i sefyll ac amddiffyn ein rhyddid. Ymladdwyd ein hynafiaid dros ein rhyddid, rhyddid ein plant a’n cymunedau. Nawr yw’r amser i ddweud ‘na’ i unrhyw orchmynion syn effeithio’n negyddol ar ein bywydau pob dydd.

Os ydych yn cytuno, nawr yw’r amser i weithio gyda’n gilydd i amddiffyn ein democratiaeth, dyma gyfle i’ch llais gael ei glywed.

Ymunwch gan arwyddo isod. Danfonwch neges glir: Dim pasbortau’r brechlyn yn unman!

Gallwn newid hyn, ynghyd.